Mae’n hadroddiad blynyddol ar gyfer y 12 mis diwethaf bellach wedi cael ei gyhoeddi. Mae’n rhoi crynodeb o’r hyn rydym wedi’i wneud, yr adborth rydym wedi’i dderbyn a’r pethau rydym am eu gwella yn y dyfodol. Mae’n ddogfen bwysig i ni. Mae’n dangos bod ein gwaith yn dryloyw ac yn agored i graffu! Rydym yn gobeithio y bydd o ddiddordeb i’r bobl rydym wedi gweithio gyda hwy, ymarferwyr craffu eraill a’r holl bobl sydd wedi cymryd yr amser i roi adborth i ni.
Fel yn y gorffennol, rydym wedi parhau ag ymagwedd cerdyn sgorio a gallwn weld tueddiadau dros sawl blwyddyn. Mae rhai o’n dangosyddion sydd wedi gwella yn cynnwys:
- Presenoldeb cynghorwyr ar gyfartaledd mewn cyfarfodydd craffu (72%)
- Nifer y llythyrau gan gadeiryddion a ysgrifennwyd at aelodau’r cabinet (76)
- Argymhellion a dderbyniwyd gan graffu y nodwyd eu bod wedi’u cwblhau (80%)
- Cynghorwyr a gytunodd fod craffu wedi cael effaith gadarnhaol ar fusnes y cyngor (84%)
- Staff sy’n cytuno bod craffu wedi cael effaith gadarnhaol ar fusnes y cyngor (79%)
Mae’r adroddiad blynyddol hefyd yn gyfle i fyfyrio’n fwy cyffredinol ar y llynedd. Yn ei rhagair, dywed y Cynghorydd Mary Jones, Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu,
Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn flwyddyn o wella a datblygu i graffu yn Abertawe. Mae’r system un pwyllgor, a gyflwynwyd yn 2012, wedi dod yn rhan arferol o sut rydym yn gwneud pethau ac mae’n parhau i ddenu diddordeb gan gynghorau eraill. Fel rhan o’i asesiad corfforaethol diweddar, cadarnhaodd Swyddfa Archwilio Cymru fod hon yn ymagwedd hyblyg at graffu sy’n galluogi cynghorwyr i ddilyn eu diddordebau eu hunain.
Wrth edrych ymlaen, meddai,
Mae craffu yn parhau i fod yn bwnc o arwyddocâd cenedlaethol. Mae’r Papur Gwyn diweddar gan Lywodraeth Cymru, ‘Grym i Bobl Leol’, yn pwysleisio’r pwysigrwydd parhaus sy’n cael ei roi ar graffu fel elfen allweddol o ddemocratiaeth leol a llywodraethu da. Croesawir y ffocws hwn ar graffu yn genedlaethol. Fodd bynnag, bydd rhaid cydnabod y galw cynyddol ar gynghorwyr craffu hefyd a ddaw law yn llaw â’r rôl gynyddol hon.
Mae adborth wedi bod yn galonogol gan ein sicrhau ein bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir. Ar y cyfan, mae pobl yn gweld craffu fel swyddogaeth bwysig yn y cyngor sy’n adeiladol, yn gefnogol, yn gyfeillgar ac yn gadarnhaol. Er enghraifft:
- Gwaith da yn cael ei wneud – llawer o dystiolaeth gadarnhaol yn cael ei derbyn.
- Cadarnhaol iawn ag ystod eang o bynciau ar draws yr awdurdod.
- Gwneud cyfraniad cynyddol werthfawr at waith y cyngor.
Wrth edrych ymlaen, mae’r adroddiad blynyddol yn tynnu sylw at chwe chanlyniad gwella y mae cynghorwyr craffu wedi cytuno arnynt, yn dilyn adborth, ar gyfer y flwyddyn nesaf:
- Mae angen i ni siarad mwy ag aelodau’r cabinet er mwyn i ni allu cynllunio’n well a sicrhau bod ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth.
- Mae angen i ni unioni gwaith craffu yn agosach â’r pum blaenoriaeth gorfforaethol er mwyn i ni allu canolbwyntio ar y pethau sydd o bwys a chael effaith arnynt.
- Mae angen cynnal mwy o sesiynau briffio a datblygu er mwyn sicrhau fod gennym yr wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen arnom.
- Mae angen mwy o sylw arnom yn y cyfryngau er mwyn i aelodau’r cyhoedd fod yn fwy ymwybodol o’n gwaith.
- Mae angen cael mwy o aelodau’r cyhoedd i gyfrannu at gyfarfodydd craffu er mwyn i ni allu adlewyrchu eu safbwyntiau yn ein gwaith.
- Mae angen i ni gael cysylltiadau agosach â rheoleiddwyr ac arolygwyr er mwyn i ni allu darparu her fwy cydlynol ac effeithiol.
Gallwch lawrlwytho’r adroddiad llawn ar ein tudalennau cyhoeddiadau, yma.
Leave a Comment