Bydd y Panel Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chraffu Cyllid yn cwrdd am 1.30pm ddydd Mercher 13 Mai (Ystafell Bwyllgor 3, Canolfan Ddinesig). Rôl y panel yw craffu perfformiad corfforaethol, gwaith gwella gwasanaethau a threfniadau cyllidebol y cyngor.
Ar agenda’r wythnos hon yw sesiwn holi ac ateb gyda’r Cynghorydd David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Dai a Chymunedau. Diben y sesiwn hon yw canolbwyntio’n benodol ar gyflawni targedau arbedion a’u heffaith ar gyfer 2014/15 yn y portffolio tai a chymunedau.
Bydd y panel hefyd yn trafod ei Gynllun Gwaith Blynyddol ac yn myfyrio ynghylch gwaith, cyflawniadau, profiadau, materion a syniadau’r flwyddyn at ddibenion craffu yn y dyfodol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys cynllun gwaith drafft ar gyfer 2015/16.
Mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod i’r cyfarfod hwn. Os hoffech ddod, rhowch wybod i’r Tîm Craffu trwy ymateb i’r blog hwn, e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk neu ffonio 01792 636292.
Leave a Comment