Mae’r blog hwn yn crynhoi rhai o’r pethau a ddysgom mewn sesiwn arfer da gyda Chynulliad Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd o fudd i graffwyr sy’n edrych ar sut i wella cynnwys y cyhoedd.
Gwybodaeth am y sesiwn
Aeth y Tîm Craffu, ynghyd â’r Cynghorwyr Mary Jones a Paxton Hood-Williams, i Gaerdydd am y diwrnod i glywed am sut mae’r Cynulliad yn cynnwys y cyhoedd yn ei waith. Roedd Dyfrig Williams o Arfer Da Cymru yn rhan o’r sesiwn hefyd a daeth â’i gamera fideo gydag ef i ffilmio rhai o’r uchafbwyntiau.
Roedd y diwrnod yn sgwrs anffurfiol gyda phobl wahanol yn mynd ac yn dod. Er ein bod yn dod o wahanol haenau o lywodraeth, gwnaethom ganfod fod gennym lawer o bethau’n gyffredin. Yn ymarferol, roeddem yn gallu rhannu awgrymiadau defnyddiol ar bethau megis sesiynau holi ac ateb gydag aelodau’r cabinet a’r modd y cynhelir ymchwiliadau manwl.
Yn gyffredinol, roedd yn gyfle dysgu gwych i ni ac rydym yn ddiolchgar iawn i Kevin Davies a’i gydweithwyr am drefnu’r diwrnod ac am roi o’u hamser mor hael. Roedd hefyd yn hyfryd gweld Peter Black AC a Mike Hedges AC a ddaeth draw i gyfrannu at y sesiwn.
Dyma rai pwyntiau dysgu o’r diwrnod – rwy’n gobeithio y byddant yn ddefnyddiol i chi. Yn sicr byddwn yn myfyrio arnynt i wella ein harfer.
- Peidiwch â rhoi’r gorau i chwilio am ffyrdd newydd i gynnwys y cyhoedd
Mae sesiynau fel hyn yn ein hatgoffa eich bod yn dysgu am gynnwys yn barhaus. Gwnaethom ddysgu am bethau newydd i’w defnyddio, megis:
- Gwe-sgyrsiau â thestun yn unig drwy ddefnyddio Google Hangouts
- Creu fideos gydag iPads
- Defnyddio hysbysebion Facebook i hyrwyddo ymchwiliadau craffu
- Sgyrsiau yw ymchwiliadau craffu, nid prosiectau ymchwilio ffurfiol
Er yr hoffem wneud gwaith craffu sy’n fanwl gywir yn academaidd, mae’n rhaid i ni gydnabod bod ymchwiliadau craffu yn wahanol i waith ymchwil ffurfiol. Cynhelir gwaith craffu mewn amgylchedd gwleidyddol. Defnyddir tystiolaeth gan swyddogion sydd, mwyaf tebyg, ag elfen o duedd yn yr hyn maent yn ei wneud ac mae’n rhaid i’r gwleidyddion cysylltiedig fod yn bresennol pan gesglir tystiolaeth. Os cesglir tystiolaeth ar ran y gwleidyddion ac yna adrodd yn ôl arno, ni fydd fyth mor wir iddynt, ni waeth pa mor fanwl yw’r adborth.
Tystiolaeth wyneb yn wyneb yw’r dystiolaeth fwyaf pwerus.
Cyfres o sgyrsiau llai a gaiff eu crynhoi ar y diwedd yw ymchwiliadau mewn gwirionedd. Eto, y craffwyr sy’n penderfynu beth a ddefnyddir o’r sgyrsiau llai hyn pan fyddant yn trafod y canlyniad terfynol fel gr?p.
- Mae ymchwiliadau craffu’n ychwanegu gwerth drwy ddefnyddio mwy na’r ffynonellau traddodiadol
Gwelsom sut mae ymchwiliadau craffu’r Cynulliad yn caniatau i aelodau’r pwyllgor siarad â phobl na fyddent yn siarad â hwy fel arfer. Yn sicr, dyma oedd ystyr cynnwys y cyhoedd yn ei hanfod. Gallai craffwyr ehangu eu gwybodaeth a pharatoi cwestiynau gwell drwy sgwrsio â phobl y tu allan i gylch arferol y Cynulliad.
Mae cynnal y sgyrsiau hyn yn golygu gweithio mewn ffyrdd gwahanol. Clywsom am aelodau’r pwyllgor yn cwrdd â phobl mewn ardaloedd menter ac mewn lleoliadau cymunedol ar gyfer gwaith sy’n ymwneud â thlodi. Yna byddant yn cynnal sesiynau anffurfiol a fyddai’n cael eu hadrodd yn ôl yn anhysbys. Roedd rhai sesiynau yn ‘answyddogol’ a oedd yn gyfle i glywed safbwynt gwerthfawr na fyddent efallai wedi’i gael fel arall.
- Aelodau’r pwyllgor sy’n gyfrifol am arwain cynnwys y cyhoedd
Clywsom fod cynnwys y cyhoedd yn ddiwylliant newydd i bwyllgorau’r Cynulliad a bod ehangu y tu hwnt i gylch y Cynulliad wedi datblygu o fod yn eithriad i fod yn rhywbeth cyffredin iawn.
Roedd aelodau’r pwyllgor yn dysgu trwy wneud. Trwy roi cynnig ar bethau newydd, roeddent wedi dod yn fwy agored i ymagweddau newydd. Roedd cael hyder mewn gwneud pethau’n wahanol hefyd yn golygu bod ymchwiliadau’n fwy hyblyg.
- Meddyliwch am ‘bwy’ cyn meddwl am ‘sut’
Roeddem yn hoffi bod ymchwiliadau craffu bob tro’n dechrau gyda dau gwestiwn tebyg i’r rhai canlynol:
 phwy rydych chi angen siarad?
Sut rydych chi’n mynd i siarad â hwy?
Fel ni, mae’r Cynulliad yn ystyried sut gallant roi’r ‘defnyddiwr’ wrth wraidd yr hyn maent yn ei wneud a sut i greu gweithgareddau cynnwys y cyhoedd sy’n ymwneud ag anghenion y defnyddiwr. Buom yn rhannu ein profiadau gyda phethau megis straeon defnyddwyr a mapio llwybrau defnyddwyr.
Clywsom am sut mae fideo’n cael ei ddefnyddio i rannu adborth o waith craffu a buom yn trafod defnyddio crynodebau byr o adroddiadau y mae’n hawdd eu rhannu.
- Mae cynnwys y cyhoedd yn gofyn am waith tîm corfforaethol
Clywsom am sut mae’r Cynulliad yn creu tîm integredig ar gyfer pob ymchwiliad. Mae’r tîm hwn, sy’n cefnogi gwaith cynllunio a chyflwyno cynnwys y cyhoedd, yn cynnwys rhywun o’r adran gyfathrebu a’r adran gyfreithiol, yn ogystal â rhywun o’r is-adran bwyllgorau.
Yn sicr gallwn ddysgu o’r gwaith integredig hwn er mwyn darparu cefnogaeth sy’n fwy llawn a chynhwysfawr.
- Paratowch ymlaen llaw er mwyn gallu dechrau’r gwaith craffu’n syth
Gwelsom fod gwaith paratoi trylwyr yn cael ei wneud cyn ymchwiliadau er mwyn i bwyllgorau allu dechrau ar y gwaith yn syth. Roedd hyn yn cynnwys siarad â sefydliadau oedd yn gyfarwydd â’r mater ynghylch pwy y gallai’r pwyllgor gysylltu â hwy a sut y gellid eu cynnwys.
Roedd gwaith oddi ar-lein yn cael ei wneud o dan yr wyneb hefyd er mwyn llywio’r gwaith ar-lein. Enghraifft o hyn yw paratoi pobl i gymryd rhan mewn gwe-sgyrsiau.
Un awgrym da arall a ddysgom oedd cyhoeddi’r cwestiynau a gesglir gan y cyhoedd ymlaen llaw ar gyfer sesiynau holi aelod y cabinet. Roedd hyn yn helpu’r pwyllgor ac aelod y cabinet i baratoi.
- Mae adborth yn gylch parhaus
Rydym yn gwybod bod yr elfen hon o gynnwys y cyhoedd yn bwysig, ond nid ydym yn llwyddo i’w wneud yn iawn bob tro. Roedd yn ddiddorol, felly, cael clywed am:
- Y defnydd o fideo a Storify i ddarparu adborth
- Crynhoi adroddiadau terfynol hir i greu darnau o adborth sy’n haws i’w rheoli
- Cynnwys dyfyniadau pobl mewn adroddiadau a dangos iddynt eu bod yno
- Adrodd yr ymchwiliad ‘fel stori’ o safbwynt y bobl yr effeithir arnynt
- Rhoi straeon i’r cyfryngau am ddigwyddiadau a phobl – nid prosesau
Roedd hwn yn ddiwrnod cynhyrchiol iawn ac yn enghraifft wych o sut mae gweld sut mae pobl eraill yn gweithio’n gallu cefnogi dysgu a datblygu.
Leave a Comment