Mae diwylliant corfforaethol cadarnhaol yn bwysig oherwydd os cawn ni hyn yn iawn, mae’n gosod sylfaen y sefydliad ac yn ysgogi’r ymddygiad a ddymunir a fydd yn ei dro yn helpu i gyflawni’r canlyniadau cywir. Felly mae angen alinio diwylliant Cyngor Abertawe â’r hyn y mae’r cyngor yn ceisio’i gyflawni (a’i ddefnyddio i atgyfnerthu hyn). Mae’r cyngor am i ddiwylliant staff ganolbwyntio mwy ar rymuso, cyfrifoldeb personol, blaengaredd a chydweithio.Mae rhaglen flaengaredd wedi’i sefydlu i helpu i gyflawni’r nodau hyn.
Bydd Cynghorwyr Craffu’n cwrdd yr wythnos nesaf i edrych ar sut mae Cyngor Abertawe’n gweithio i ddatblygu ei ddiwylliant corfforaethol. Mae meddu ar y diwylliant corfforaethol cywir yn hanfodol os yw’r cyngor yn mynd i fynd i’r afael yn effeithiol â rhai o’r heriau mae’n eu hwynebu, er enghraifft, rheoli galw, llai o adnoddau a disgwyliadau uwch y cyhoedd.
Bydd y gweithgor yn trafod adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a rheolwr Newid Sefydliadol ac yn siarad â hwy, a bydd yn edrych ar, er enghraifft:
- Yr hyn rydym yn ei wybod am y diwylliant presennol yn Abertawe?
- Y rhaglen flaengaredd a’r hyn y mae’n ceisio’i gyflawni?
- Cyflwyno’r rhaglen flaengaredd?
- Sut rydym yn ceisio creu a chefnogi diwylliant gallu gwneud?
- Ystyried materion y mae angen eu goresgyn wrth greu diwylliant gallu gwneud?
Cynhelir y cyfarfod nos Fercher 12 Tachwedd am 5pm yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe. Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y cyfarfod hwn neu graffu’n gyffredinol, gallwch gysylltu â ni yn scrutiny@swansea.gov.uk
Clod llun: https://flic.kr/p/99UsVX
Leave a Comment