Bydd Panel Craffu Perfformiad Ysgolion yn cwrdd â Phrif Swyddogion Addysg y cyngor a staff perthnasol o’r adran addysg i drafod yr hyn sy’n cael ei wneud i helpu ysgolion i ymdrin â materion ymddygiad er mwyn gwella deilliannau disgyblion a pherfformiad cyffredinol ysgolion yn Abertawe.
Bydd cynghorwyr yn trafod strategaeth ymddygiad Abertawe, sut mae ymddygiad yn effeithio ar berfformiad, beth yw’r heriau allweddol i wella ymddygiad a sut gall yr Awdurdod Lleol helpu ysgolion i wella.
Mae’r panel hefyd wedi cysylltu â sawl ysgol ar draws Abertawe i ofyn am eu barn ar nifer o faterion sy’n ymwneud â hyn a fydd hefyd yn cael eu trafod yn y cyfarfod, gan gynnwys:
- Sut mae materion ymddygiad yn effeithio ar berfformiad eu hysgol
- A yw dulliau arfer adferol yn helpu i fynd i’r afael â materion ymddygiad mewn ysgolion
- Sut mae materion sy’n ymwneud â chyffuriau ac alcohol yn effeithio ar boblogaeth disgyblion ac, o ganlyniad, sut mae hynny’n effeithio ar berfformiad yr ysgol
Cynhelir y cyfarfod ddydd Iau 13 Tachwedd am 3.30pm yn y Ganolfan Ddinesig. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y cyfarfod hwn neu am graffu yn gyffredinol,
e-bostiwch scrutiny@swansea.gov.uk
Llun trwy garedigrwydd: https://flic.kr/p/6JMMkb
Leave a Comment