Bydd y panel yn ei gyfarfod ar 18 Medi yn trafod dogfen Llywodraeth Cymru a ryddhawyd yn ddiweddar ‘Ailysgrifennu’r Dyfodol: codi uchelgais a chyrhaeddiad yn ysgolion Cymru’.
Mae’r adroddiad yn amlygu’r weledigaeth i gael disgwyliadau uchel ar gyfer yr holl ddysgwyr, ni waeth beth yw eu cefndir cymdeithasol economaidd, a sicrhau bod ganddynt gyfle cyfartal i gyflawni’r disgwyliadau hynny.
Bydd gan lawer o’r argymhellion oblygiadau i ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru, ac mae’r Panel wedi gofyn i’r Prif Swyddog Addysg lunio amlinelliad byr o sut gallai Abertawe fynd i’r afael â’r rhain.
Mae’r rhai o’r argymhellion hyn yn cynnwys er enghraifft:
- sefydlu darpariaeth ar gyfer brecwast am ddim, yn enwedig i ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig mewn addysg gynradd, ac annog dysgwyr i’w derbyn.
- cynllunio ar gyfer trosglwyddo effeithiol o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.
- awdurdodau lleol yn mabwysiadu ymagwedd amlasiantaeth i gronni arbenigedd gydag asiantaethau eraill sy’n mynd i’r afael â phryderon iechyd, domestig a lles cymdeithasol dysgwyr a’u teuluoedd.
Os hoffech fwy o wybodaeth am graffu, gallwch fynd i’n gwefan yn www.abertawe.gov.uk/scrutiny
Leave a Comment