Bydd Aelod y Cabinet dros Les, y Cynghorydd Mark Child, gerbron Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 4 Awst am sesiwn holi ac ateb.
Bydd y pwyllgor yn archwilio’r gwaith y mae wedi’i wneud yn y rôl hon, gan ystyried blaenoriaethau, camau gweithredu, cyflawniadau ac effaith. Byddent yn croesawu’ch syniadau ar gyfer cwestiynau.
Mae’r portffolio Lles yn cynnwys cyfrifoldeb am:
- Y Gwasanaethau Cymdeithasol (gan gynnwys y fenter Cefnogi Pobl)
- Tai (gan gynnwys Tai Amlbreswyl)
- Iechyd / Dinasoedd Iach
- Ymyrryd ac Atal yn Gynnar (gan gynnwys y rhaglen Dechrau’n Deg)
- Gweithgarwch Corfforol/Hamdden
Oes rhywbeth rydych chi’n meddwl y dylai’r pwyllgor ei ofyn iddo? Caiff unrhyw gwestiynau a dderbynnir cyn 4 Awst eu hystyried gan y pwyllgor wrth iddo lunio ei strategaeth holi a gofynnir y rhai allweddol i’r Cynghorydd Child.
Anfonwch eich syniadau atom trwy ychwanegu sylw at y blog hwn, trwy e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk neu drydar @craffuabertawe.
Cynhelir cyfarfod y pwyllgor ddydd Llun 4 Awst am 4.30pm yn Ystafell Bwyllgor 1 yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod iddo.
Caiff crynodeb o bob sesiwn, gan gynnwys y cwestiynau gan y cyhoedd a ofynnir a sylwadau’r pwyllgor, eu cynnwys mewn llythyr at yr aelod o’r Cabinet dan sylw. Cyhoeddir y llythyrau hyn, ynghyd ag ymatebion gan aelodau’r Cabinet, yn agendâu Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn y dyfodol.
Mae hon yn rhan o gyfres o Sesiynau Holi Aelod y Cabinet a gynhelir yn ystod y flwyddyn. Mae’r pwyllgor yn cwrdd bob 4 wythnos. Yr aelod nesaf i gael ei holi fydd y Cynghorydd Christine Richards, Aelod y Cabinet dros Gynnwys Dinasyddion a Chymunedau a Democratiaeth, ar 1 Medi.
Llun: Dinas a Sir Abertawe
Leave a Comment