Bydd Aelod y Cabinet dros Gyfleoedd i Blant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Mitchell Theaker, gerbron Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 7 Gorffennaf ar gyfer sesiwn holi ac ateb.
Bydd y pwyllgor yn archwilio’r gwaith y mae wedi’i wneud yn y rôl hon, gan ystyried blaenoriaethau, camau gweithredu, cyflawniadau ac effaith. Byddent yn croesawu’ch syniadau ar gyfer cwestiynau.
Mae’r portffolio Cyfleoedd i Blant a Phobl Ifanc yn gyfrifol am:
- Y Gwasanaethau Chwarae ac Ieuenctid;
- Y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid; a
- phrosiectau megis Gweithffyrdd/Y Tu Hwnt i Frics a Morter sydd â’r nod o gefnogi pobl i ddod o hyd i brofiad gwaith, hyfforddiant a chyflogaeth.
Oes rhywbeth rydych chi’n meddwl y dylai’r pwyllgor ei ofyn iddo? Bydd y pwyllgor yn ystyried cwestiynau a dderbynnir cyn 7 Gorffennaf wrth lunio’i strategaeth holi a gofynnir y rhai allweddol i’r Cynghorydd Theaker.
Anfonwch eich syniadau atom trwy wneud sylw ar y blog hwn, trwy e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk neu drydar @craffuabertawe.
Cynhelir cyfarfod y pwyllgor ddydd Llun 7 Gorffennaf am 4.30pm yn Ystafell Bwyllgor 1 yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod iddo.
Dyma fydd dechrau cyfres o Sesiynau Holi Aelod y Cabinet a gynhelir yn ystod y flwyddyn. Mae’r pwyllgor yn cwrdd bob 4 wythnos. Yn y sesiwn nesaf ar 4 Awst byddwn yn holi’r Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Les.
Llun: Dinas a Sir Abertawe
Leave a Comment