Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi gofyn i’r cyhoedd sgorio pwysigrwydd pynciau ymchwiliad craffu. At ei gilydd, mae’r cyhoedd wedi sgorio’r 5 pwnc ymchwiliad a gynhaliwyd eleni.
Mae’r canlyniadau, a gafwyd gan Banel Dinasyddion Lleisiau Abertawe, yn dangos y pynciau yn nhrefn pwysigrwydd:
Strydlun – Cynnal a chadw a glendid ffyrdd a throedffyrdd (58%)
Mewnfuddsoddiad yn Abertawe a rhanbarth de-orllewin Cymru (52%)
Pa mor dda mae’r cyngor yn cynnwys y cyhoedd (47%)
Gofal cymdeithasol yn y cartref (45%)
Addysg Heblaw yn yr Ysgol (29%)
Mae’r ffigurau mewn cromfachau’n dangos canran ymatebwyr Lleisiau Abertawe sy’n cytuno bod y pwnc yn eithriadol o bwysig.
Bydd yr wybodaeth hon yn rhan o’r cyflwyniad a gaiff ei ddangos i Gynghorwyr yn y Gynhadledd Cynllunio Gwaith Craffu Flynyddol a gynhelir yn fuan. Yn y gynhadledd hon, caiff Cynghorwyr dasg anodd blaenoriaethu gwaith craffu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Mae’n bwysig bod craffu’n canolbwyntio ar y materion pwysicaf i’r cyhoedd, felly hoffai Cynghorwyr craffu gael cyfraniad gennych chi.
Hoffen nhw wybod pa wasanaethau’r cyngor neu wasanaethau cyhoeddus eraill mae angen eu hystyried.
Os hoffech roi awgrym, gallwch adael sylw neu e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o’r pynciau a awgrymwyd gan y cyhoedd wedi’u defnyddio fel ymchwiliadau craffu, megis cynnal a chadw a glendid ffyrdd a throedffyrdd, gofal cymdeithasol yn y cartref, cludiant cyhoeddus a llythrennedd mewn ysgolion.
Dewch yn ôl yma am adborth o’r gynhadledd cynllunio gwaith flynyddol.
Leave a Comment