Bob mis, mae’r cyngor yn cael adroddiad am y gwaith craffu diweddaraf. Ei nod yw darparu’r penawdau, fel arfer gydag un brif stori bob tro, i gynyddu ymwybyddiaeth a gwelededd o waith ac effaith craffu.
Dyma grynodeb y mis hwn:
1. Galw am dystiolaeth (Arweinydd: y Cynghorydd Mike Day)
Un o’r ymagweddau newydd a fabwysiadwyd eleni oedd ‘galw am dystiolaeth’ ar gyfer ymchwiliadau craffu manwl. Mae’r ymchwiliadau hyn, y disgwylir iddynt bara hyd at chwe mis, yn arwain at gyhoeddi adroddiad terfynol gyda chasgliadau ac argymhellion, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd, sy’n cael ei gyflwyno i’r cabinet am benderfyniad.
Mae galw am dystiolaeth yn gyfle i gynghorwyr nad ydynt yn cymryd rhan uniongyrchol yn y Panel Ymchwilio naill ai gyfrannu tystiolaeth eu hunain neu sicrhau bod pobl eraill â diddordeb yn ymwybodol o’r cyfle i gyfrannu. Mae hefyd yn ffordd o sicrhau bod aelodau’r cabinet yn gallu tynnu sylw’r Panel at faterion a allai ddylanwadu ar y casgliadau a geir a’r argymhellion a wneir. Er bydd gan Baneli Ymchwilio syniad da ynghylch y bobl efallai yr hoffent siarad â nhw a’u gwahodd i gyfarfodydd y panel, mae ‘galw am dystiolaeth’ yn sicrhau bod y sylfaen dystiolaeth mor eang â phosib a gall unrhyw unigolyn neu sefydliad sydd â diddordeb yn y pwnc gyfrannu ei farn. Mae hefyd yn rhan bwysig o ddatblygu cynnwys y cyhoedd yng ngwaith craffu. Bydd ‘galw am dystiolaeth’ yn cael ei gyhoeddi ar ddechrau ymchwiliad unwaith bydd y panel wedi cytuno ar y cylch gorchwyl. Bydd hyn yn amlinellu’r cwestiwn allweddol a thrywydd yr ymchwiliad fel bod y bobl berthnasol yn gallu ystyried cyflwyno tystiolaeth a allai gynorthwyo’r ymchwiliad craffu.
Cadwch lygad am alwadau am dystiolaeth yn y dyfodol!
2. Y rhestr aros ar gyfer tai cymdeithasol (Arweinydd: Y Cynghorydd Terry Hennegan)
Cyfarfu’r cynghorwyr craffu â swyddogion ym mis Chwefror i archwilio’r syniad o gyflwyno un rhestr aros ar gyfer tai cymdeithasol yn Abertawe sy’n cynnwys y cyngor a’r holl Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig eraill. Yn y cyfarfod cafwyd trafodaeth am ddichonoldeb y newid hwn a’r berthynas â’r cymdeithasau tai. Y prif fater i’r cynghorwyr oedd sicrhau bod y ffocws ar y canlyniad dymunol i’r ymgeiswyr am dai, sef proses gyflym o gael cartref
sy’n diwallu eu hanghenion. Mae’r Gweithgor Craffu bellach wedi ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Les ac maent yn aros am ei ymateb i nifer o argymhellion. Mwy am hyn yn y rhifyn nesaf!
3. Sylw ar y gwasanaeth parciau (Arweinydd: Y Cynghorydd John Newbury)
Cyfarfu Gweithgor Craffu sy’n edrych ar y Gwasanaeth Parciau yn ddiweddar i ofyn cwestiynau am ddarpariaeth gwasanaeth ar draws Abertawe gan gynnwys cynnal a chadw parciau mewn cymunedau lleol.
Canmolodd y gr?p y gwaith ardderchog a wneir gan y gwasanaeth gan gytuno bod safon gyffredinol y parciau a’r amwynderau lleol yn Abertawe’n dda. Er gwaethaf hyn, mynegwyd pryderon am effaith y toriadau cyllidebol ar y gwasanaeth. Trafodwyd rhai syniadau gan y gr?p i liniaru effeithiau hyn gan gynnwys: datblygu a hyrwyddo ‘cymdeithasau cyfeillion’; cyfleoedd i ddirprwyo cyfrifoldebau am barciau i grwpiau o’r fath; ac archwilio modelau rheoli eraill.
Codwyd y materion canlynol hefyd i’w hystyried ymhellach gan Aelod y Cabinet dros Leoedd:
- Mae cyllid ac ariannu’n fater allweddol wrth gynnal a chadw parciau
- Mae baw c?n yn dal i fod yn broblem mewn parciau
- Mae angen canfod ateb i dywod mudol o hyd
- Dylai ceisiadau gael eu hannog am gydnabyddiaeth Meysydd Chwarae Cymru yn ogystal â llwyddiant y Faner Werdd;
- Mae’n annhebygol y bydd perchnogion busnes canol y ddinas yn parhau i gyfrannu at fasgedi crog.
Mae Aelod y Cabinet dros Leoedd wedi ymateb yn gadarnhaol i argymhellion y gr?p, a bydd yn ystyried y materion a godwyd.
4. Craffu a gwella ysgolion (Arweinydd: Y Cynghorydd Jennifer Raynor)
Mae’r Panel Perfformiad Ysgolion yn parhau i roi her barhaus i wella ysgolion. Ers y newyddion diweddaraf ym mis Ionawr, mae’r Panel wedi cynnal sesiwn gyda Phennaeth a Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Dynfant a chwrdd â’r Prif Swyddog Addysg newydd, Arwyn Thomas, i drafod strategaeth addysg o ran gwella safonau mewn ysgolion a chyrhaeddiad disgyblion.
Panel newydd yw hwn sydd wedi bod ar waith am flwyddyn yn unig, ac mae’n parhau i ddatblygu ei rôl. Mae aelodau’r panel yn bwriadu cynnal sesiwn ym mis Ebrill i werthuso’r flwyddyn i sicrhau bod y panel yn effeithiol, ac ystyried cynllun ar gyfer gwaith y flwyddyn nesaf.
5. Pwy sy’n edrych ar droseddu ac anrhefn? (Arweinydd: y Cynghorydd Mike Day)
Mae Pwyllgor y Rhaglen Graffu hefyd yn gweithredu fel Pwyllgor Troseddu ac Anrhefn y Cyngor, sy’n ofyniad dan Ddeddf Heddlu a Chyfiawnder 2006. Mae craffu ar y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol leol,Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel, yn rhan bwysig o’r rôl hon. Dros y flwyddyn, mae’r pwyllgor wedi cwrdd â Phrif Uwch-arolygydd (Heddlu De Cymru) a swyddog arweiniol Dinas a Sir Abertawe sy’n cyd-gadeirio’r bartneriaeth. Mae’r pwyllgor wedi ei holi ar waith a pherfformiad y bartneriaeth, archwilio’r hyn a wnaed, pa mor dda y’i gwnaed a pha effaith y mae wedi’i chael, yn ogystal â thrafod cynlluniau/heriau sydd o’u blaenau. Un o’r materion a drafodwyd yn fanwl eleni oedd cynnal y cyfarfodydd PACT a chyfleoedd i wella cynnwys cymunedau.
Llun: http://flic.kr/p/e4Bdjc
Leave a Comment