Bydd Aelod y Cabinet dros Leoedd, y Cynghorydd June Burtonshaw, ym Mhwyllgor y Rhaglen Graffu ar 17 Chwefror ar gyfer sesiwn holi ac ateb.
Bydd y pwyllgor yn archwilio’r gwaith y mae wedi’i wneud, yn edrych ar flaenoriaethau, camau gweithredu, cyflawniadau ac effaith. Byddent yn croesawu eich syniadau am gwestiynau.
Mae’r portffolio Lleoedd yn cynnwys y meysydd cyfrifoldeb canlynol:
- Tai’r Cyngor a Safon Ansawdd Tai Cymru
- Cynllunio – Rheoli Datblygu, Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
- Strategaeth Tai
- Trafnidiaeth a Phriffyrdd
- Rheoli Gwastraff
- Canol y Ddinas Iach
- Cymunedau Cryfach a Mwy Diogel
A oes unrhyw beth y dylai’r pwyllgor ofyn iddi? Bydd unrhyw awgrymiadau cyn 17 Chwefror yn cael eu hystyried gan y pwyllgor wrth lunio ei strategaeth cwestiynu, a gofynnir y cwestiynau allweddol iddi.
Mynegwch eich syniadau drwy ychwanegu sylw fan hyn, drwy e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk neu anfonwch neges drydar at @swanseascrutiny.
Cynhelir cyfarfod y pwyllgor ddydd Llun 17 Chwefror am 4.30 pm yn Ystafell Bwyllgor 2 yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe, ac mae croeso i’r cyhoedd ddod.
Llun: Dinas A Sir Abertawe
Leave a Comment