Bob mis, mae’r cyngor yn cael diweddariad gan yr Adran Graffu am y gwaith mae wedi bod yn ei wneud. Ei nod yw darparu’r penawdau, fel arfer gydag un brif stori bob tro, i gynyddu ymwybyddiaeth a gwelededd o waith ac effaith craffu.
Dyma grynodeb y mis hwn:
1 . Beth yw’r cysylltiad rhwng Parciau, Cynllunio a Phrydau Ysgol?
Edrychodd Gweithgor Craffu ar y materion hyn yn ddiweddar. Roedd hyn yn golygu bod gr?p o gynghorwyr â diddordeb yn y mater yn dod at ei gilydd i gwrdd ag aelodau perthnasol o’r cabinet a/neu swyddogion ar gyfer cyfarfod unigol. Er y cynhelir y rhan fwyaf o weithgareddau craffu trwy Bwyllgor y Rhaglen Graffu ei hun a thrwy sefydlu Paneli Ymchwilio a Pherfformiad anffurfiol, mae Gweithgorau Craffu yn darparu cyfle i graffu’n ‘ysgafn’ ar bwnc o ddiddordeb. Mae hyn yn cefnogi’r syniad o hyblygrwydd yn y rhaglen waith a’r gallu i fynd i’r afael â materion penodol wrth iddynt godi. Yna gall y Gweithgor wneud argymhellion i’r Aelod Cabinet perthnasol (fel arfer trwy lythyr cynllunydd) neu, os teimlir bod angen craffu manylach, gallent ei gyfeirio at y pwyllgor ar gyfer trafodaeth cynllunio gwaith yn y dyfodol.
Yn achos y Gweithgor a oedd yn edrych ar y Gwasanaethau Parciau, a arweiniwyd gan y Cynghorydd John Newbury, roedd y cyfarfod yn galluogi cynghorwyr craffu i gael gafael ar wybodaeth a gofyn cwestiynau oedd yn ymwneud â: darpariaeth parciau ar draws Abertawe; perfformiad a thueddiadau (gan gynnwys defnydd); cynnal a chadw parciau mewn cymunedau lleol; llwyddiant y faner werdd; a heriau, risgiau a chyfleoedd y dyfodol.
Roedd Gweithgor arall a gynhaliwyd yn ddiweddar, a arweiniwyd gan y Cynghorydd Mark Thomas, yn canolbwyntio ar y Gwasanaeth Cynllunio, gyda chynghorwyr craffu yn holi cwestiynau ac yn cael cyfle i drafod eu pryderon yngl?n â materion, gan gynnwys: gweithgaredd gorfodi; y berthynas rhwng cynllunio a rheoli adeiladau; recriwtio a chadw staff; perthynas swyddogion/aelodau ac incwm y ffioedd cynllunio.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Gweithgorau wedi mynd i’r afael â nifer o faterion eraill, gan gynnwys: Rhandiroedd; Diwygio Lles; a Phrydau Ysgol. Bydd Gweithgorau’r dyfodol sydd eisoes wedi’u nodi yn edrych ar y canlynol yn fuan:
- Tai Cymdeithasol – er mwyn trafod y posibilrwydd o gynnwys un rhestr aros yn unig ar gyfer tai cymdeithasol yn Abertawe sy’n cynnwys y cyngor a’r holl Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. (cynllunydd: Cyng. Hennegan)
- Adeiladau Hanesyddol – er mwyn trafod gwaith cynnal a chadw adeiladau hanesyddol yn Abertawe, pwerau a chyfrifoldebau (cynllunydd: Cyng. Meara)
- Meysydd Parcio – er mwyn trafod y ddarpariaeth ar draws Abertawe, eu perfformiad a chynlluniau ar gyfer gwella (cynllunydd: Cyng. Colburn)
2. Panel Ymchwilio Cynhwysiad Addysg Newydd
(Arweinydd: Y Cynghorydd Cheryl Philpott)
Wrth i ymchwiliadau presennol ddod i ben, mae Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn ystyried pa Baneli Ymchwilio newydd sydd eu hangen. Yr egwyddorion arweiniol sy’n sail i unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol yw bod rhaid iddo fod yn strategol ac yn arwyddocaol, yn fater sy’n peri pryder ac yn cynrychioli defnydd da o amser craffu. Un o’r materion a nodwyd yw bod angen edrych ar pam mae angen addysg ar wahân i’r ysgol ar rai plant, a beth gellir ei wneud i wella eu deilliannau. Sefydlwyd Panel Ymchwilio newydd a bydd yn cwrdd ym mis Chwefror i ddechrau ar y gwaith hwn. Y dasg gyntaf ar gyfer unrhyw Banel Ymchwilio yw datblygu Cylch Gorchwyl clir a chynllunio er mwyn casglu tystiolaeth. Bydd y Panel yn adrodd yn ôl ar ôl 6 mis.
3. Darpariaeth Safle Sipswn a Theithwyr
(Arweinydd: Y Cynghorydd Clive Lloyd)
Ar ôl i’r cyngor gyfeirio ato, mae Pwyllgor y Rhaglen Graffu bellach wedi cytuno ar frîff ar gyfer y gweithgaredd craffu hwn. Bydd y gwaith hwn yn galluogi craffu i adolygu’r broses a ddefnyddir hyd yn hyn wrth chwilio am ail Safle Sipsiwn a Theithwyr, ceisio sicrhau ansawdd, nodi unrhyw bwyntiau dysgu ac argymell unrhyw newidiadau ar gyfer y dyfodol fel y bo’n briodol.
Cytunwyd mai’r ffordd fwyaf effeithiol o wneud y gwaith hwn fyddai trwy gynnal cyfarfodydd arbennig o’r pwyllgor, ond gan ystyried sut gallai cynghorwyr eraill gymryd rhan yn y broses. Y Cyng. Clive Lloyd fydd cadeirydd y cyfarfodydd hyn.
Bwriedir cynnal cyfres o gyfarfodydd arbennig o Bwyllgor y Rhaglen Graffu ar 20 Chwefror, 6 Mawrth, 24 Mawrth a 3 Ebrill.
4. Sut gallaf gael mwy o wybodaeth am Baneli anffurfiol a Gweithgorau?
(Arweinydd: y Cynghorydd Mike Day)
Er bod Paneli Craffu a Gweithgorau’n cynrychioli dull anffurfiol o weithio, mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd. O ganlyniad i’w natur ad hoc, ymdrechir i sicrhau gwelededd ac ymwybyddiaeth o’r cyfarfodydd a’r materion a drafodir fel bod pobl yn gallu ymuno’n y gwaith hwn fel y dymunant.
Caiff yr holl gyfarfodydd eu cynnwys yn nyddiadur y cyngor ac yn amserlen y cyfarfodydd bob pythefnos. Darperir diweddariad wythnosol i gynghorwyr a gyhoeddir ar wefan y cyngor a’i nodi ar hysbysfyrddau. Yn ogystal, caiff newyddion am Baneli a Gweithgorau ei gynnwys ym mlog Craffu Abertawe. Yma cewch fanylion am gyfarfodydd sydd i ddod a phwyntiau cyswllt pe bai angen mwy o wybodaeth arnoch, yn ogystal â straeon am ganfyddiadau allweddol o’r gwaith hwn. Mae cynghorwyr yn derbyn e-bost awtomatig am gynnwys newydd y gallant ei rannu, ond gall unrhyw un gofrestru i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
5. Sut gallaf ddylanwadu ar y Rhaglen Gwaith Craffu yn y dyfodol?
(Arweinydd: y Cynghorydd Mike Day)
Gan ein bod bron a chyrraedd chwarter olaf y flwyddyn ddinesig, caiff cynghorwyr eu hatgoffa y byddant eto’n cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y Gynhadledd Cynllunio Gwaith Craffu Flynyddol. Cynhelir y gynhadledd ym mis Mai 2014 i ystyried a nodi blaenoriaethau craffu ar gyfer blwyddyn y cyngor 2014/15. Gall cynghorwyr fwydo syniadau yngl?n â phynciau’r dyfodol ar gyfer eu craffu trwy’r Arolwg Rhanddeiliaid Craffu Blynyddol a gyhoeddir ym mis Mawrth. Bydd y Rhaglen Gwaith Craffu hefyd yn cynnwys sylwadau gan staff, y cyhoedd a phartneriaid.
Er bod rhaglen waith wedi’i sefydlu, gellir gwneud ceisiadau am graffu ar faterion sy’n peri pryder trwy gydol y flwyddyn. Bydd cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn ystyried unrhyw fater a godwyd a, chyda chytundeb y pwyllgor, yn penderfynu beth yw’r ffordd orau y gall craffu ymdrin ag ef.
Llun: http://flic.kr/p/e4Bdjc
Leave a Comment