Yn gyffredinol, rydyn ni, fel dinasyddion, yn fodlon cymryd rhan a rhannu ein barn am faterion sy’n effeithio arnom. Fodd bynnag, mae partneriaethau, fel Byrddau Gwasanaethau Lleol, yn cael trafferth gyda hyn ac nid yw’n wahanol i BGLl Abertawe. Dyma dri awgrym y bydd eich partneriaeth efallai am eu hystyried.
Gofynnodd Panel Ymchwilio Craffu Cynnwys y Cyhoedd sut gall Bwrdd Gwasanaethau Lleol Abertawe fod yn well wrth ein cynnwys i rannu ein barn a’n syniadau. Cytunodd Cyfranogaeth Cymru, Aelod perthnasol y Cabinet a Llywodraeth Cymru, pwysigion byd cynnwys y cyhoedd, y gellid ei wneud. ‘Sut’ y gellid ei wneud oedd y pwnc llosg yng nghyfarfod y panel.
Dyma dri syniad
Rhoi wyneb cyhoeddus iddo
Addysgu’r cyhoedd. Trwy ein sianeli digidol a chyfathrebu eraill, gyhoeddi pam mae ein partneriaeth yn bodoli, beth mae’n ei wneud, beth mae wedi’i gyflawni a beth mae’n gobeithio ei gyflawni.
Ei wneud yn berthnasol
Os yw mater yn effeithio ar bobl, byddan nhw’n fodlon lleisio’u barn i chi. Nid yw’n addas cynnwys y cyhoedd ym mhob mater ac nid yw pawb am gael ei gynnwys. Culhewch ffocws yr ymgynghoriad i ysgogi grwpiau penodol y mae ganddynt rywbeth i’w gyfrannu ac am gyfrannu rhywbeth ar fater penodol i gymryd rhan.
Ei wneud yn hygyrch
Ei wneud yn haws i bobl gymryd rhan. Defnyddio rhwydweithiau a mecanweithiau presennol i ddarparu ffyrdd i bobl gymryd rhan – does dim angen ailddyfeisio’r olwyn! Os yw’n gweithio, does dim angen ei newid.
Yn sicr doedd y syniadau hyn a ddaeth o drafodaethau’r panel ddoe ddim yn newydd, ond roedden nhw o ddiddordeb i’r panel a chafwyd trafodaeth wych. Bydd y panel yn cadw llygad ar hyn a thystiolaeth arall pan ddaw i’w adroddiad terfynol a’i argymhellion yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf.
Leave a Comment