Mae Panel Ymchwiliad Craffu’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn cwrdd ar 16 Chwefror i siarad â chynrychiolwyr o adran addysg y cyngor ac aelodau’r Cabinet dros Addysg Plant a Phobl Ifanc. Bydd y cyfarfod yn dechrau am 9.30am a chaiff ei gynnal yn Siambr y Cyngor yn Neuadd y Ddinas. Nod y […]
Oes gennych chi gwestiwn am sut mae ysgolion yn cefnogi plant ag anghenion iechyd meddwl?
Pam ydym ni’n craffu cyn penderfynu?
Craffu cyn penderfynu yw’r broses sy’n galluogi cynghorwyr craffu i ymgysylltu â’r Cabinet cyn iddynt wneud penderfyniadau, ac mae rhesymau da dros pam y dylai hyn ddigwydd. Mae’n gyfle i ymgynghori â chynghorwyr anweithredol cyn i’r Cabinet wneud penderfyniad. Mae’n galluogi’r cynghorwyr craffu i gynyddu gwybodaeth a datblygu dealltwriaeth o faterion penodol. Mae’n cyfrannu at […]
Mwy o graffu os gwelwch yn dda!
Mae cynghorwyr ar y Panel Perfformiad Craffu Lles wedi bod yn eithaf uchel eu cloch mewn cyfarfodydd diweddar am eu gallu i graffu Gwasanaethau i Oedolion a Gwasanaethau Plant a Theuluoedd mewn un cyfarfod yn unig y mis. Gan boeni nad oeddent yn rhoi digon o amser i faes pwysig Gwasanaethau i Oedolion, cytunwyd […]
Sicrhau bod ein gofalwyr gofal yn derbyn y gefnogaeth orau
Treuliodd y Panel Perfformiad Lles beth amser yr wythnos hon yn dilyn yr ymchwiliad “Cefnogaeth i’r Rhai sy’n Gadael Gofal“ a gwblhawyd ym mis Mawrth 2012. Mae’r cam dilynol hwn yn rhan bwysig iawn o’r broses graffu oherwydd ei fod yn galluogi cynghorwyr i sicrhau bod yr argymhellion a dderbyniwyd gan yr Aelod Cabinet wedi eu gweithredu. […]
Darparu gwasanaethau cynaliadwy i blant a theuluoedd
Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Panel Perfformiad Lles a edrychodd ar berfformiad yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Roedd yn falch gan y panel weld bod llai nag 8 plentyn yn derbyn gofal ar ddiwedd mis Awst o gymharu â’r mis blaenorol a bod niferoedd y plant sy’n derbyn gofal wedi bod ar […]
Amddiffyn plant drwy Arwyddion Diogelwch
Roedd y Panel Perfformiad Lles am wybod sut roedd Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Abertawe’n defnyddio’r model Arwyddion Diogelwch i ddiogelu plant yn Abertawe y nodwyd eu bod ‘mewn perygl’. Bwriad model Arwyddion Diogelwch yw helpu ymarferwyr wrth asesu risg a llunio cynlluniau diogelwch mewn achosion amddiffyn plant. Ei ddiben yw galluogi ymarferwyr ar draws […]