Panel Craffu Perfformiad Ysgolion, sef corff craffu addysg Cyngor Abertawe, sydd â’r rôl o ddarparu heriau parhaus o ran perfformiad ysgolion er mwyn sicrhau bod disgyblion yn Abertawe’n derbyn addysg o safon, ac i sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei amcanion i wella safonau ysgolion a chyrhaeddiad disgyblion. Dyma’r cyfarfodydd sydd ar ddod […]
Cynghorwyr craffu yn cynnig awgrymiadau i wella cynnal a chadw ffyrdd a throedffyrdd yn Abertawe
Cyfarfu cynghorwyr craffu y Gweithgor Cynnal a Chadw Ffyrdd a Throedffyrdd ag uwch-swyddogion yr Adran Priffyrdd a Chludiant ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau’r Amgylchedd, y Cynghorydd Mark Thomas, er mwyn trafod ei adroddiad ar gynnal a chadw ffyrdd a throedffyrdd yn Abertawe. Mynegodd y gweithgor bryderon yngl?n â’r ôl-groniad o waith gwerth £54 miliwn […]
Cynghorwyr Craffu yn edrych ar lyfrgelloedd Abertawe
Cyfarfu Cynghorwyr Craffu y Panel Cyllid a Gwella Gwasanaethau ar 7 Chwefror i drafod Adroddiad Perfformiad Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 16/17. Cafodd y Panel gyflwyniad gan Uwch-swyddogion y Gwasanaethau Diwylliannol ar fframwaith cyfredol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. Mae fframweithiau’n sicrhau bod llyfrgelloedd yng Nghymru’n bodloni safonau penodol. Roedd Cynghorwyr Craffu’n falch o ymdrechion […]
Lles ceffylau ar dennyn wedi gwella’n sylweddol!
Cyfarfu Cynghorwyr Craffu’r Gweithgor Ceffylau ar Dennyn ar 31 Ionawr i gyd-drafod a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd gan y cyngor a’i bartneriaid ar y sefyllfa bresennol mewn perthynas â cheffylau ar dennyn ar dir cyhoeddus. Roedd cynghorwyr yn falch o glywed y cynnydd mawr a wnaed yn dilyn eu cyfarfod […]
Cyflwyniad i Graffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid
Prif ddiben Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid yw sicrhau bod trefniadau cyllidebol, corfforaethol a gwella gwasanaethau’r cyngor yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae’r panel yn cwrdd unwaith y mis i ystyried agweddau gwahanol ar fonitro cyllid a pherfformiad. Mae’r panel yn gofyn cwestiynau sy’n cynnwys: Sut mae perfformiad yn cymharu â blynyddoedd […]
Craffu ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Mae perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol Plant a Theuluoedd (GPTh) yn cael ei fonitro gan gynghorwyr craffu yn Abertawe. Mae newidiadau mawr yn digwydd i’r GPTh a rôl panel craffu perfformiad y GPTh yw sicrhau y cynhelir perfformiad ac y gwneir gwelliannau pellach ar draws holl feysydd y gwasanaeth. Gweledigaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd […]