Brexit – Ydyn Ni’n Barod?

Bydd Cynghorwyr Gweithgor Craffu Brexit yn cwrdd ar 23 Medi i drafod pa mor barod rydym ni fel awdurdod lleol ar gyfer Brexit. Er mwyn cael y diweddaraf am y gweithgor hwn, cliciwch ar y ddolen uchod. Bydd y Gweithgor Craffu Brexit yn cwrdd ar 23 Medi i drafod pa mor barod rydym ni fel […]

Bobl Ifanc! Neidiwch ar y trên craffu a dewch i ddysgu am gydraddoldebau!

Ar gyfer yr ymchwiliad craffu hwn daeth gr?p o gynghorwyr at ei gilydd i lunio Panel Ymchwiliad Craffu. Buon nhw’n edrych ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sef deddf a roddwyd ar waith i ddiogelu pobl yn gyfreithiol rhag gwahaniaethu yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach. Mae hefyd yn nodi’r ffyrdd gwahanol y mae’n anghyfreithlon […]

Sesiwn Holi ac Ateb Aelod y Cabinet: Y Cyng. Andrea Lewis

Disgwylir i Bwyllgor y Rhaglen Graffu gwrdd ar 9 Medi a bydd yn cynnal sesiwn holi ac ateb gydag Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni, y Cynghorydd Andrea Lewis. Cliciwch yma os hoffech chi ofyn unrhyw gwestiynau iddi.

Cynghorwyr Craffu’n canolbwyntio ar Wasanaethau i Gymunedau Gwledig

Yn ystod y cyfarfod ar 17 Gorffennaf, edrychodd y Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio ar yr Ymateb a’r Cynllun Gweithredu ynghylch Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Gwasanaethau Llywodraeth Leol i Gymunedau Gwledig’. Mae Abertawe’n awdurdod lled-wledig ac mae 60% o’r tir yn wledig. Fodd bynnag, gall y broses o ddosbarthu wardiau fel rhai gwledig neu drefol […]

Cynghorwyr Craffu’n hapus iawn gyda chanlyniadau’r Ymchwiliad i’r Amgylchedd Naturiol

Ym mis Gorffennaf ymatebodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno i Ymchwiliad Craffu’r Amgylchedd Naturiol. Roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn a chymeradwywyd 18 o’r 20 o argymhellion gan wrthod y ddau a oedd yn weddill am resymau ariannol. Os bydd y cyllid ar gael, caiff y ddau argymhelliad sy’n weddill eu rhoi ar waith. O […]

‘Hawdd ei Ddarllen’ – Fformat hygyrch i oedolion ag anableddau dysgu

Mae’r Ymchwiliad Craffu Cydraddoldebau diweddar wedi amlygu’r angen am wybodaeth fwy hygyrch am wasanaethau’r cyngor. Ar gyfer yr adroddiad Ymchwiliad Craffu, roedd cynghorwyr am lunio trosolwg hawdd ei ddarllen o gasgliadau ac argymhellion yr ymchwiliad. Felly, rydym wedi llunio amlinelliad o’r ddogfen ac wedi gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth yng Nghanolfan Ddydd Fforest-fach i’w hadolygu a […]