Cyfarfu’r Panel Craffu Cydraddoldeb ar 11 Hydref 2018 lle aethant ati i drafod a chytuno ar ei raglen waith ar gyfer ei ymchwiliad i gydraddoldeb. Fel rhan o’r darn hwn o waith, mae cynghorwyr wedi cytuno i siarad â chyfarwyddwyr y cyngor yn gyntaf er mwyn iddynt ddeall yr agweddau cydraddoldeb yn eu cylch gwaith, gan gynnwys sut maent yn datblygu eu hamcanion cydraddoldeb, ymgorffori dyletswyddau cydraddoldebau’r cyngor a hyfforddiant/gwybodaeth staff. Byddant yn cwrdd â hwy ar y dyddiadau canlynol:
- 21 Ionawr 19 (Am 10.30am yn Ystafell Bwyllgor 5 yn Neuadd y Ddinas) – Cyfarfod gyda Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
- 31 Ionawr 19 (Am 10.30am yn Ystafell Bwyllgor 5 yn Neuadd y Ddinas) – Cyfarfod gyda’r Cyfarwyddwr Addysg ac yna’r Cyfarwyddwr Lleoedd
Mae’r cyfarfodydd hyn oll ar agor i’r cyhoedd a byddai’r panel yn croesawu eich barn yn y cyfarfodydd a/neu drwy ysgrifennu e-bost neu lythyr. Gallwch ein e-bostio yn scrutiny@abertawe.gov.uk. Gallwch hefyd ysgrifennu ymateb ar gyfer ein Galw am Dystiolaeth yma
Bydd y panel yn siarad â phobl sydd â diddordeb yn y mater hwn yn y flwyddyn newydd, gan gynnwys grwpiau cymunedol cydraddoldeb, grwpiau a sefydliadau partner, hyrwyddwyr cydraddoldeb, undebau llafur a staff. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi yngl?n â hyn a sut gallwch gymryd rhan drwy’r blog hwn.