Mae panel ymchwiliad craffu newydd wedi cychwyn sy’n edrych ar Gydraddoldeb. Mae cynghorwyr ar y panel yn edrych yn benodol ar ‘Pa mor effeithiol y mae’r cyngor yn bodloni ac yn ymgorffori gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru)?
Bydd yr ymchwiliad yn edrych yn benodol at sut yr ystyrir materion cydraddoldeb wrth ddarparu gwasanaethau’r cyngor ac yn ystod datblygiadau a newidiadau i’r gwasanaethau hyn. Bydd hefyd yn ystyried yr hyn y mae’r cyngor yn ei wneud yn dda a pha feysydd y gellid eu gwella.
Fel rhan o’r ymchwiliad hwn, hoffai cynghorwyr glywed eich barn am y materion canlynol.
- Rôl: Rôl y cyngor o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru) a pha mor dda y mae’r cyngor yn bodloni ac yn ymgorffori’r ddyletswydd honno?
- Sgiliau/gwybodaeth: A oes gan staff y cyngor y sgiliau, yr hyfforddiant a’r gallu angenrheidiol i sicrhau bod y cyngor yn cyflawni’r ddyletswydd?
- Diwylliant: A oes agwedd gadarnhaol at sicrhau cydraddoldeb ar draws y sefydliad ac ymrwymiad i wneud hyn?
- ch)Systemau a phrosesau: A oes systemau, arferion a phrosesau effeithiol ac effeithlon ar waith ar draws y cyngor fel y gellir bodloni’r ddyletswydd. A yw swyddogion y cyngor yn defnyddio’r arferion hyn yn gyson?
- Gweithio mewn partneriaeth: Sut rydym yn gweithio gyda chymunedau lleol, y sector gwirfoddol ac eraill i helpu ac ymgorffori’r gofynion?
- dd) Mesur llwyddiant: Ym mha ffordd y mae’r cyngor yn mesur sut mae’n bodloni ac yn ymgorffori’r ddyletswydd?
Caiff yr holl wybodaeth a gesglir ei defnyddio i gyfeirio adroddiad i Gabinet y cyngor gydag argymhellion ar gyfer gwella. Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi ar wefan y cyngor unwaith y cwblheir yr ymchwiliad. A allwch anfon eich barn atom erbyn (ychwanegwch ddyddiad).
Sut i fynegi’ch barn…
Anogir grwpiau neu unigolion â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r panel ymchwilio drwy e-bostio craffu@abertawe.gov.uk. Efallai y bydd y Panel yn cysylltu â chi i drafod eich tystiolaeth. Bydd yr holl dystiolaeth a gyflwynir yn cael ei chyhoeddi fel arfer fel rhan o’r ymchwiliad. Os nad ydych am i’ch tystiolaeth gael ei chyhoeddi, nodwch hynny’n glir.
Leave a Comment