Trefnwyd Gweithgor Craffu i ystyried Cydlyniant Cymunedol yn Abertawe ar 20 Mehefin er mwyn archwilio gwaith ac effeithiolrwydd y cyngor a’i bartneriaethau wrth gefnogi a hyrwyddo cydlyniant cymunedol. Bydd y gweithgor yn edrych ar y cyfeiriad neu’r strategaeth drosgynnol yn benodol.
Mae’r materion y mae’r gweithgor yn bwriadu eu trafod yn cynnwys:
- Rhwystrau i wella cydlyniant cymunedol a sut y gellir mynd i’r afael รข hwy
- Enghreifftiau o rai o’r prosiectau sydd wedi’u cynllunio er mwyn gwella cydlyniant cymunedol yn lleol
- Sut y mae llwyddiant yn cael ei fesur a’i fonitro
- Sut y mae cynghorwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau cydlyniant cymunedol ac yn cael eu cynnwys ynddynt
- Sut y mae’r gwaith hwn yn gwneud lles i drigolion/gymunedau lleol yn Abertawe.
Bydd y papurau agenda ar gael wythnos cyn y cyfarfod a gellir dod o hyd iddynt yma
Leave a Comment