Ar 6 Gorffennaf, bydd cynghorwyr yn cyfarfod i gael trafodaeth ddilynol am effaith eu hymchwiliad craffu i ddiwylliant corfforaethol ymhlith staff yn y cyngor. Cwblhawyd ymchwiliad ym mis Mehefin 2015 gyda Chabinet y cyngor yn cytuno ar gyfres o argymhellion ym mis Hydref 2015. Roedd rhai o’r argymhellion i’r Cabinet yn cynnwys, er enghraifft:
- Croesawu amrywiaeth eang o ddulliau arloesedd i gyflwyno newidiadau i’r sefydliad
- Cymryd camau i sicrhau bod staff newydd yn cael cyflwyniad corfforaethol o fewn mis i ddechrau gweithio gyda’r cyngor.
- Sicrhau bod rheolwyr yn ymgorffori arloesedd yn arfarniadau staff, cyfarfodydd un i un a chyfarfodydd tîm
- Cwrdd ag undebau llafur i drafod sut gallent gymryd rhan
- Annog uwch-reolwyr i gynnal gweithgareddau ‘yn ôl i’r llawr’ gyda’r canlyniadau’n rhan o’r blog arloesedd
Mae Aelod y Cabinet wedi llunio adroddiad sy’n cynnwys cynnydd ar y cynllun gweithredu sy’n codi o’r ymchwiliad a rhoi atebion i’r pwyntiau cynnydd canlynol:
Beth sydd wedi newid ers i’r adroddiad gael ei gyflwyno i’r Cabinet?
Mae gwaith sylweddol yn parhau i gael ei wneud i ddatblygu a sefydlu gwaith y Rhaglen Arloesedd y mae gwaith y cyngor ar newid diwylliannol yn canolbwyntio arni. Mae adroddiad yr ymchwiliad wedi galluogi’r rhaglen hon i ganolbwyntio’i hymdrechion a’i hadnoddau ar gyfeiriadau penodol, er enghraifft gwella sgiliau staff o ran offer a thechnegau arloesedd.
A yw’r argymhellion y cytunwyd arnynt wedi’u rhoi ar waith?
Mae’r adroddiad gan Aelodau’r Cabinet yn amlygu bod cyflawni a sefydlu diwylliant corfforaethol ‘gallu gwneud’ yn broses barhaol a thymor hir. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys cynllun gweithredu sy’n rhoi’r cynnydd ar yr argymhellion a gwblhawyd.
Beth fu effaith yr ymchwiliad craffu?
Roedd yr ymchwiliad wedi rhoi ffocws ar gyfer gwelliant ym maes diwylliant corfforaethol a bydd yn parhau i weithredu fel rhestr wirio ar gyfer gwaith y Rhaglen Arloesedd yn y dyfodol.
Leave a Comment