Gwnaeth cynghorwyr o Banel Craffu Perfformiad Ysgolion gwrdd â’r Pennaeth a Llywodraethwr o ysgol Gymunedol Cefn Hengoed er mwyn trafod canlyniad arolygiad diweddar Estyn a thaith wella’r ysgol. Ar 9 Mehefin siaradodd y panel â’r Ymgynghorydd Herio, wedyn gyda’r Llywodraethwr ysgol.
Dewisodd y Panel siarad â’r ysgol gan ei bod wedi cael ei chanmol am ei harfer rhagorol gan Estyn, ac roeddent eisiau dysgu, dathlu a helpu i rannu’r arfer da hwnnw.
Arolygwyd yr ysgol ym mis Hydref 2015 ac fe’i barnwyd yn rhagorol o ran ei pherfformiad presennol a chyda rhagolygon ardderchog ar gyfer gwella.
Amlinellodd y Pennaeth y cyd-destun y mae’r ysgol yn gweithio ynddo gan esbonio bod gan yr ysgol 38.4% o ddisgyblion prydau ysgol am ddim yn 2015/16, 37% o ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig a bod 73% o ddisgyblion yn byw yn rhannau mwyaf difreintiedig Cymru (yn unol â Mynegai Amddifadedd Lluosog 2015).
Mae’n ysgol arweiniol yn y sector yng Nghymru a chafodd 15 dyfarniad rhagorol yn olynol yn cynnwys holl agweddau arolygiad Estyn. Mae hyn yn ei gwneud yr unig un allan o 5 ysgol uwchradd fod wedi llwyddo i wneud hyn yng Nghymru yn ystod y 5 mlynedd diwethaf.
Canfir Cynghorwyr fod rhai o’r rhesymau am y dyfarniad ardderchog hwn yn cynnwys:
- Arweinyddiaeth: Mae safon uchel a chysondeb arweinyddiaeth ar bob lefel yn gryfder arbennig. Dosberthir rolau a chyfrifoldebau yn effeithiol, ac mae llinellau atebolrwydd yn glir. Mae’r holl arweinyddion yn gosod disgwyliadau a heriau o lefel uchel ar gyfer staff ac adrannau unigol, yn ogystal â’r disgyblion. Estyn
- Sicrhau ansawdd a defnyddio data’n rhagorol, monitro tynn gyda sawl lefel o sicrhau ansawdd.
- Ffocws clir ar berfformiad disgyblion a chodi safonau
- Mae ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus staff wedi helpu i greu safon addysgu uchel ar draws yr ysgol, sydd wedi cael ei barnu fel cryfder arbennig gan Estyn
- Mae’n ysgol sy’n hunanwerthuso’n barhaus ac sy’n mynd i’r afael â heriau’n uniongyrchol
- Corff llywodraethu cefnogol a heriol
- Cymuned leol gefnogol sydd hefyd yn elwa o’r ysgol lwyddiannus hon
- Gofal bugeiliol rhagorol
- Mae’r ysgol yn gweithio’n dda gydag eraill wrth rannu arferion, nid yn unig o ran ysgolion cynradd ei chlwstwr ond hefyd gyda rhieni a’r gymuned leol
Creodd y canlynol argraff arbennig o dda ar y panel:
- Gwaith Cefn Hengoed gydag ysgolion cynradd ei chlwstwr
- Llythrennedd, rhifedd a sgiliau sylfaenol yn cael eu datblygu ar draws y cwricwlwm.
- Y ffordd y mae’r ysgol wedi lleihau’r bwlch rhwng perfformiad bechgyn a merched gan wella deilliannau bechgyn a disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim yn sylweddol
- Perfformiad gwell cyffredinol carfanau blwyddyn 9 ac 11 yn olynol mewn perthynas â dangosyddion cenedlaethol
- Gwelliant parhaus o ran presenoldeb disgyblion gyda’r ysgol yn bodloni targed hyd yn hyn eleni gyda phresenoldeb o 94.1%.
Nododd yr ysgol rai o’r heriau y bydd yn eu hwynebu yn ystod y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys:
- Ffocws parhaus ar gyllidebau a thoriadau cyllidebol ysgolion a’r sector cyhoeddus
- Adroddiad Donaldson a datblygiadau cysylltiedig – rhywbeth cadarnhaol ond sy’n galw am lawer o amser ac adnoddau.
- Bagloriaeth Cymru – hefyd yn galw am lawer o adnoddau.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y gwaith hwn neu am graffu yn gyffredinol, ewch i’n gwefan yn www.abertawe.gov.uk/craffu neu e-bostiwch ni yn scrutiny@swansea.gov.uk
Darperir y llun gan: Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed
Leave a Comment