Mae angen i ni ddatblygu a chefnogi cymunedau cynaliadwy oherwydd bydd hyn yn arwain at ganlyniadau gwell i bobl ac yn lleihau costau gwasanaethau. Nid yw modelau cyflwyno gwasanaeth presennol yn gynaliadwy ac nid ydynt yn darparu’r canlyniadau gorau bob amser.
Mae cynghorwyr craffu yn Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd datblygu cymunedau cynaliadwy, felly maent wedi cytuno i gynnal gwaith craffu ar y mater.
Cynhelir gweithgor ar 26 Tachwedd pan fydd cynghorwyr yn ystyried adeiladu cymunedau cynaliadwy, gan gyfeirio’n benodol at weithredu yn y gymuned.
Rhagwelir y bydd yr ymchwiliad yn cefnogi gwaith y cyngor drwy gynnig y canlynol, er enghraifft:
- Rhai cynigion ar gyfer gwella yn y tymor hir, canolig a byr
- Persbectif cynghorwyr ar ba mor dda y mae’r agwedd yn gweithio
- Cyfeirio at enghreifftiau o arfer da
- Rhannu barn pobl wahanol sy’n cymryd rhan yn yr agwedd hon
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am yr ymchwiliad hwn neu am graffu’n fwy cyffredinol, ewch i’n tudalennau gwe yn www.abertawe.gov.uk/craffu
Ffynhonnell y ffotograff: www.flickr.com/photos/dukefarms/
Leave a Comment