Mae cynghorwyr craffu yn Abertawe’n edrych ar sut gall y cyngor wella gwasanaethau sy’n cadw amgylchedd eich cymdogaeth yn lân ac ar waith ond gyda llai o arian. Fel rhan o’r ymchwiliad hwn, hoffent glywed eich profiadau ynghylch y gwasanaethau hyn.
Cynhelir gweithdy ar 11 Mehefin am 5pm yn ystafell bwyllgor 3 y Ganolfan Ddinesig. Bydd y gweithdy hwn yn rhoi cyfle i breswylwyr fynegi eu barn i’r cynghorwyr craffu. Os hoffech gymryd rhan, ffoniwch y tîm craffu ar 01792 637491 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk .
Neu gallwch gwblhau arolwg ar-lein i fynegi eich barn. I gwblhau’r arolwg, cliciwch ar y ddolen isod:
http://www2.swansea.gov.uk/_snapforms/osr/ssi0514/cym/streetwelsh.htm
Bydd yr wybodaeth ddiweddaraf am ymchwiliad craffu’r strydlun ar gael yma’n fuan.
Leave a Comment